top of page
​
ARLOESI I GYFLAWNI AMP7
29.10.2020
Roeddem ni am roi gwybod i chi am y newidiadau cyffrous i'r Achlysur Arloesi eleni. Oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau sydd mewn grym, rydyn ni wedi penderfynu troi ein hachlysur yn brofiad hollol ddigidol, a’i gynnal ar 29 Hydref. Dewch i ymuno â ni i drafod sut y gallwn ni gydweithio i arloesi a chyflawni sialensiau AMP7.
Ymunwch â ni ar gyfer Achlysur Arloesi’r flwyddyn hon i archwilio cyfleoedd i arloesi gyda Dŵr Cymru a'i bartneriaid yn y Gynghrair. Eleni daw’r prif anerchiadau gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, yr Athro Peter Halligan ac Uwch Gyfarwyddwr Ofwat, John Russell. Bydd y gynhadledd yn cynnwys arddangosfa ryngweithiol hefyd lle bydd sgyrsiau ar bynciau penodol, a lle byddwn ni'n arddangos yr arloeseddau gorau rydym wedi eu cyflawni yn AMP6 a beth rydyn ni'n bwriadu ei ddatblygu i'w gyflawni yn AMP7.
bottom of page